Rhestr o Awduron

HUGHES, RICHARD CYRIL

Neuadd Lwyd, Penmynydd, LLANFAIRPWLL, Ynys Mon LL61 5BX
Ffôn: (01248) 714071

Nofelydd hanesyddol. Ganed yng Nghaergybi. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gwnaeth ymchwil mewn Addysg. Athro ym Mae Colwyn, Rhiwabon a Wrecsam cyn mynd yn Uwch–ddarlithydd yn y Coleg Normal ac wedyn yn Uwch Swyddog Ymgynghorol gydag Awdurdod Addysg Gwynedd. Enillydd gwobrau coffa Gruffudd John Williams a Daniel Owen. Wedi ymddeol yn gynnar ac ailgydio mewn ysgrifennu.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Catrin o Ferain
Dinas Ddihenydd
Castell Cyfaddawd
(Gomer)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ei nofelau ei hun
2. Crefft y nofel hanesyddol

Oedran y Gynulleidfa: Disgyblion uwchradd ac oedolion