Rhestr o Awduron
HYWEL, EMYR
Cnwc yr Onnen, Blaenporth, Aberteifi, Ceredigion SA43 2BD
Ffôn: 01239 810045
Ebost: emyr@uku.co.uk
Nofelydd a bardd. Ganed ym Mlaenporth ac yno y mae’n byw. Addysgwyd yn Aberteifi. Dilynodd gwrs athro yng Ngholeg Addysg Y Barri a graddiodd yn y Gymraeg gyda dosbarth cyntaf yn 1998 dan gynllun gradd allanol Prifysgol Aberystwyth. Daeth yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Ffrwyth y gystadleuaeth honno yw’r nofel Dyddiau’r Drin. Bu’n gyfrifol am olygu cerddi Cymraeg disgyblion ysgol a baratowyd ar gyfer Cynllun Ysgrifennu Creadigol Cwmni Theatr Arad Goch ar y thema bwlio. Cyfrannwr i amryw o gyfnodolion. Prifathro yn ysgol Tregroes sydd bellach wedi ymddeol. Bu hefyd yn Swyddog Datblygu Gwyl Werin y Cnapan ac Aerwyl.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Nofelau:
Gwaedlyd y Gad (D. Brown a’i Feibion Cyf, 1974)
O Grafanc y Gyfraith (Gwasg Christopher Davies, 1979)
Dyddiau’r Drin (Cyhoeddiadau Barddas, 1989).
Barddoniaeth:
Gwehilion (1974 )
Ymolchi Mewn Cwstard (CBAC, 1992)
Tŷ Mamgu (CBAC, 1992).
Casgliad o lythyron:
Annwyl D.J. (gol.) (Gwasg y Lolfa, 2007)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Hwyl barddoni (gyda phlant)
2. Ei waith ei hun
3. Agweddau ar lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif
4. D.J. Williams – llenor, llythyrwr a gwleidydd
Oedran y Gynulleidfa: plant cynradd / disgyblion uwchradd / oedolion



