Rhestr o Awduron
JAMES, MELERI WYN
Cwm Pennant, Cliff Terrace, Aberystwyth SY23 2DN
Ffôn: (01970) 612521 (adre) 0774 7788 702 (symudol)
e–bost: meleri@nildram.co.uk
Awdures a newyddiadurwr. Ganed yn Llandeilo a magwyd ym Meulah ac Aber–porth, addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o straeon yn 1991 ar ôl ennill Medal Ryddiaith yr Urdd yn Eisteddfod Tâf Elai. Golygydd Cynorthwyol gydag Urdd Gobaith Cymru, Is-olygydd Celfyddydau gyda’r cylchgrawn Golwg ac yna Ymchwilydd gyda Radio Cymru, Abertawe. Gweithio ar ei liwt ei hun fel awdures, newyddiadurwraig a darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Golygydd Lingo Newydd i ddysgwyr. Ysgrifenwraig sgriptiau ar gyfer drama sebon Ponty ar Radio Cymru a Phobol y Cwm ar S4C. Cyhoeddwyd ei straeon a’i herthyglau mewn amryw o gyfnodolion gan gynnwys Golwg, Llais Llyfrau, Y Wawr, Taliesin, Sgrîn, Lingo Newydd a Mynd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Mwydyn yn yr Afal (Dinefwr, 1991)
Stripio (Lolfa, 1994)
Catrin Jones yn Unig (Gomer, 2000)
Catrin Jones a’i Chwmni (Gomer, 2001)
Gwenynen Bigog (Gomer, 2003)
Cyfres Whap!: hlo bri@n!:) (Gomer, 2006)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Y stori fer
3. Newyddiadura
4. Gweithdai ysgrifennu creadigol ym meysydd rhyddiaith, sgriptio a newyddiadura
Oedran y Gynulleidfa: pob oedran


