Rhestr o Awduron

JONES, BOBI

Bobi JonesBardd, awdur rhyddiaith ac ysgolhaig. Magwyd Bobi Jones ar aelwyd Saesneg ei hiaith yng Nghaerdydd, ac wedi dod yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd y dysgodd Gymraeg. Wedi graddio yn y Gymraeg cafodd yrfa academaidd ddisglair; ar ei ymddeoliad ym 1989 ef oedd Athro’r Gymraeg yn Aberystwyth. Ef hefyd oedd un o brif sylfaenwyr y mudiad i ddysgwyr, CYD. Mae wedi cyhoeddi rhyw 85 o lyfrau gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, astudiaethau ym maes addysg, ieithyddiaeth, adfer iaith a diwinyddiaeth yn ogystal â nofelau, storïau byrion, hunangofiant, a barddoniaeth. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol.

Llyfryddiaeth ddethol
Hunllef Arthur (Barddas, 1986)
Ynghylch Tawelwch (Barddas, 1998)
O’r Bedd i’r Crud (Gomer, 2000)
Ôl Troed (Barddas, 2003)
Rhy Iach: Storiau Byrion, (Cyhoeddiadau Barddas, 2004)
Meddwl y Gynghanedd (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)