Rhestr o Awduron
JONES, DAFYDD PRICE
’Y Berllan’, Heath Ride, FINCHAMPSTEAD, Berkshire RG40 3QF
Ffôn: (0118) 9730086
e–bost: dafyddpj@dafyddpj.demon.co.uk
Nofelydd, awdur straeon byrion ac ambell i erthygl ac adolygiad. Ganed ym Mangor. Wedi ymddeol (Tachwedd 1995 – yn 46 oed) o’i swydd fel gwyddonydd cyfrifiadur. Enillydd amryw wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y Stori Fer, dyddiadur a chomisiwn i sgrifennu nofel wyddonias. Mae hefyd yn luniwr croeseiriau yn Taliesin, Barn a’r Independent.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Nefoedd Wen! (Gwasg Gee)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod llenyddiaeth, gan gynnwys ei waith ei hun os oes raid!
2. Darllen a thrafod gwaith grwp o blant neu oedolion
3. Gweithdai
4. Nofelau a straeon gyda naws wyddonol neu ffantasi iddynt
Oedran y Gynulleidfa: 14-18 ac oedolion, a phlant o dan 14 sy’n dangos addewid arbennig


