Rhestr o Awduron

JONES, EIDDWEN

Efyrnwy, 12a Eldon Drive, Abergele, Conwy LL22 7BY
Ffôn: (01745) 823117
Ffacs: (01745) 823076
Ffôn Symudol: 07801 271403

Ganwyd ym Mae Colwyn a magwyd yn Rhewl Mostyn ger Treffynnon. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Treffynnon, Y Coleg Normal, Bangor ac yn ddiweddarach enillodd radd MA mewn Addysg Plentyndod Cynnar yng Ngholeg Prifysgol Bangor. Profiad helaeth fel athrawes, Prifathrawes ac fel Arolygydd/Ymgynghorydd Plentyndod Cynnar yng Nghlwyd. Ym mis Mai 1993 cymerodd ymddeoliad cynnar ac mae’n awr wedi sefydlu ei hun fel Ymgynghorydd Annibynnol Addysg Plentyndod Cynnar. Wedi teithio mewn rhannau o’r UDA ac Ewrop, ac wedi cyflwyno papurau yn trafod addysg gynnar a dwyieithrwydd yn Frislan a’r UDA mewn cynadleddau rhyngwladol.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ffrindiau
Stori Neu Ddwy
(Christopher Davies)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod llenyddiaeth ar gyfer plant 0–7 oed; hefyd dulliau dysgu llenyddiaeth a datblygiad y cwricwlwm 3–7 oed

Oedran y Gynulleidfa: Myfyrwyr ac oedolion sy’n delio gyda phlant 3-7 oed