Rhestr o Awduron
LYNCH, PEREDUR
Bardd, beirniad, ysgolhaig. Fe’i ganed a’i fagu yng Ngharrog ger Corwen. Mae’n Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ac yn awdurdod ar waith Beirdd y Tywysogion. Mae hefyd yn dalyrnwr brwd. Ef yw un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig.
Detholiad o gyhoeddiadau:
Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion gol. J.E. Caerwyn Williams gyda chymorth Peredur I. Lynch (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o Feirdd Hanner Cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (gydag eraill) (GPC, 1995)
Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (gydag eraill) (GPC, 1996)



