Rhestr o Awduron

LLOYD–MORGAN, CERIDWEN

Rhos Fach, Brynafan, Llanafan, ABERYSTWYTH SY23 4BG
Ffôn: (01974) 282358 (cartref)
e–bost: c.lloydmorgan@btopenworld.com

Magwyd yn Nhregarth ger Bangor ac addysgwyd yn Ysgol y Merched, Bangor, ac ym Mhrifysgolion Rhydychen, Poitiers ac Aberystwyth. Bu’n darlithio ym Mhrifysgol Caer–wysg cyn dychwelyd i Gymru.  O 1981 tan 2006, bu’n aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol, gan orffen ei gyrfa yno yn Bennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol.  Wedi cyhoeddi llu o erthyglau mewn cylchgronau yng Nghymru a thu hwnt, yn Gymraeg, Ffrangeg a Saesneg, ac wedi cyfrannu i raglenni radio a theledu Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg.  Un o sylfaenwyr Gwasg Honno a chydolygydd ei chyfres o glasuron Cymraeg: aelod o bwyllgor ymgynghorol Llenyddiaeth Cymru Dramor.  Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Gwen John Papers at the National Library of Wales (LlGC, ail argr. 1995)
Augustus John Papers at the National Library of Wales (LlGC, 1996)
Margiad Evans (Seren, 1998)
Delweddau o’r Ymylon: Bywyd a gwaith Mary Lloyd Jones (Y Lolfa, 2002)
Gwen John: Letters & Notebooks (Tate Publishing, 2004)
Imaging the Imagination: an exploration of the relationship between the Image and the Word in the Art of Wales (cydolygydd gyda Christine Kinsey, Gomer, 2005)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Hanes diwylliant a llenyddiaeth merched Cymru
2. Y chwedl Arthuraidd yn yr Oesoedd Canol a thu hwnt
3. Diwylliant Cymru a’r Cyfandir yn yr Oesoedd Canol
4. Gair a Delwedd yn niwylliant Cymru