Rhestr o Awduron

LLWYD, ALAN

Alan LlwydBardd, beirniad, cyhoeddwr a sgriptiwr. Ganed Alan Llwyd yn Llan Ffestiniog; gadael yno’n bump oed a’i fagu ar fferm yng Nghilan yn Llŷn. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru. Bu’n gwethio mewn siop lyfrau yn y Bala, ac yna fel golygydd ar gyfer cwmni cyhoeddi a swyddog golygyddol ar gyfer Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, cyn ymgartrefu yn Abertawe yn olygydd amser-llawn gyda Barddas. Ef oedd yr ail fardd i ennill y Gadair a’r Goron ill dwy yn yr un flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddau achlysur. Yn ogystal â bod yn gyhoeddwr, yn olygydd ac yn weinyddwr gyda’r Gymdeithas Gerdd Dafod mae’n sgriptio’n rheolaidd ar gyfer Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi ysgrifennu cyfrolau o feirniadaeth lenyddol, cofiannau a hunangofiant, ac wedi golygu sawl blodeugerdd o farddoniaeth. Ei waith ef oedd sgript y ffilm Hedd Wyn, a enwebwyd ar gyfer Oscar. Mae Alan yn Gymrawd yr Academi.

Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Blynyddoedd y Locustiaid: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936 (Barddas, 2007), ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.  Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Llyfryddiaeth ddethol:
Rhwng Pen Llŷn a Phenllyn (Gwasg Dinefwr, 1976)
Cerddi’r Cyfannu (Gwasg Dinefwr, 1980)
Glaw ar Rosyn Awst (Gwasg Gwynedd, 1994)
Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg (gol.) (Gwasg Gomer, 1998)
Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu (Barddas, 1997)
Ffarwelio â Chanrif (Barddas, 2000)
Clirio’r Atig a Cherddi Eraill, Cyhoeddiadau Barddas 2005 - prynwch gopi (cyswllt i Gwales)
Blynyddoedd y Locustiaid: Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1919-1936 (Barddas, 2007)

Blynyddoedd y LocustiaidDyma’r ail gofiant yng Nghyfres Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol gan Alan Llwyd.  Mae’r gyfrol hon yn trafod y blynyddoedd 1919-1936, un o’r cyfnodau mwyaf argyfyngus erioed yn hanes ein Prifwyl Genedlaethol.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z