Rhestr o Awduron

LLWYD, IWAN

Tai Newyddion, Talybont, BANGOR, Gwynedd LL57 3YB
Ffôn/Ffacs: (01248) 352552
e–bost: Iwan@llwydwilliams.freeserve.co.uk

Iwan LlwydBardd a newyddiadurwr. Ganed yn Llanidloes, Powys. Addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Testun ei draethawd MA oedd Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 am ei gasgliad Gwreichion. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol o farddoniaeth, ac wedi ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r theatr. Mae’n aelod o grwpiau Steve Eaves, Rhai Pobol a Geraint Løvgreen a’r Enw Da. Mae ganddo golofnau rheolaidd yn Barddas a Barn.

Mae ei gyfrol ddiweddaraf, Hanner Cant (Gwasg Taf, 2007)  ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.  Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Dan Anesthetig (Tâf, 1987)
Dan fy Ngwynt (Tâf, 1992)
Dan Ddylanwad – Cerddi ’Mericia, Canada a Chymru (Tâf 1997 - Llyfr y Flwyddyn)
Be ’Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia? Cerddi 1990-99 (Tâf, 2003)
Hanner Cant (Gwasg Taf, 2007)

Hanner CantAg yntau’n troi’n hanner cant, dyma gyhoeddi cyfrol newydd o waith Iwan Llwyd, ‘bardd ei genhedlaeth’.  Dyma droi carreg filltir bersonol yn garreg filltir lenyddol werthfawr felly.  Gyda lluniau hyfryd Marian Delyth, y mae’r llyfr yn gymaint o wledd i’r llygad ag ydyw i’r glust.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei gerddi ei hun
2. Noddwyr y Beirdd yn Sir Gaernarfon
3. Gweithdai ysgrifennu creadigol ar farddoniaeth

Oedran y Gynulleidfa: disgyblion ysgol / oedolion / cymdeithasau