Rhestr o Awduron

LLYWELYN, MIRIAM

Rallt Deg, Cwmyglo, CAERNARFON, Gwynedd LL55 4EA
Ffôn: (01286) 870416

Awdures ac athrawes. Ganed ym Mhorthmadog, Eifionydd. Yn awr yn trigo yn Eryri ar ôl cyfnod yn Lerpwl. Buddugol: Eisteddfod Genedlaethol – prif wobr drama; drama radio; drama i ferched; stori fer.
Enillydd: Tlws y Ddrama, Ynys Môn; Coron Eisteddfod Powys. Cyfrannwr: sgriptiau; radio a theledu – dramâu; cyfres gomedi; sgetsys.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Miri a Mwyar ac Ambell Chwipdîn (nofel, Gomer)
Pawb a’i Fys (drama, Carreg Gwalch)
Jeli Beris (drama hir, Cymdeithas Drama Cymru)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Hybu ysgrifennu creadigol - dysgu trwy ddull ysgafn a hwyliog
2. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
3. Gweithdai i blant ac oedolion
4. Darllen storïau i blant bach

Oedran y Gynulleidfa: plant / oedolion