Rhestr o Awduron

LLYWELYN, ROBIN

Robin Llywelynwww.llywelyn.com
Awdur rhyddiaith. Ganed Robin Llywelyn yn Llanfrothen ym 1958. Debyniodd ei addysg yn Llanfrothen, Harlech, a Phrifysgol Cymru Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg a’r Wyddeleg. Yn w^yr i’r pensaer Clough Williams–Ellis, ef bellach yw Rheolwr creadigaeth ei daid, pentref unigryw Portmeirion.


Yn ogystal â chyfrol o storïau byrion, cyhoeddodd ddwy nofel a agorodd gwys newydd ym myd rhyddiaith Gymraeg. Enillodd Seren Wen ar Gefndir Gwyn, a gyhoeddwyd ym 1992, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Daeth O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn o’r wasg ym 1994, ac enillodd hithau y Fedal Ryddiaith, a Gwobr Awdur y Flwyddyn y BBC. Cyfieithwyd ei waith i Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 am ei nofel Un Diwrnod yn yr Eisteddfod.

Llyfryddiaeth ddethol:
Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Gomer, 1992)
O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn (Gomer, 1994)
Y Dw^r Mawr Llwyd (Gomer, 1995)