Rhestr o Awduron

MEREDITH, OWAIN

Awdur rhyddiaith. Ganed Owain yng Nghaerdydd ym 1969, a symudodd i Gwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn pan oedd yn ddeg oed. Wedi astudio yn Ysgol y Berwyn, y Bala, Coleg Technegol Gwynedd a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth ymunodd â chynllun Targed. Bu’n olygydd y cylchgrawn pop Sothach rhwng 1992 a 1995, ac yn rapiwr gyda’r grðp Pregethwr III cyn ymuno â HTV yng Nghaerdydd. Bellach, mae’n hanesydd ffilm ac yn un o gynhyrchwyr y gyfres boblogaidd Your Century.

Llyfryddiaeth ddethol:
Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw (Y Lolfa, 1997)