Rhestr o Awduron

MILES, GARETH

13 Heol y Farchnad, PONTYPRIDD, Rhondda Cynon Tâf CF37 2ST
Ffôn: (01443) 485106 (gwaith)
e-bost: milltiroedd@aol.com

Gareth MilesAwdur straeon byrion, nofel, cyfresi teledu a dramâu. Perfformir ei gyfieithiad i’r Gymraeg o Y Pair ledled Cymru gan Theatr Genedlaethol Cymru eleni. Ganed yng Nghaernarfon, ac fe’i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Mae Gareth hefyd yn Aelod Bwrdd yr Academi.

Mae ei nofel ddiweddaraf, Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Y Proffwyd a’i Ddwy JesebelNofel yn ymwneud a thân a bwrlwm y diwygiad.  Ceir yma olwg ar y berthynas daironglog, gythryblus rhwng Ivor Lewis y Diwygiwr a dwy ferch hardd: Magdalen Morgan, a fu’n butain yn East End, Llundain cyn ei thröedigaeth a’r weddw gefnog, Elinor Pennington-Rees.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cymru ar Wasgar
Treffin
Trefaelog
(Annwn, 1989)
Duges Amalffi
Hunllef yng Nghymru Fydd
Dyrnod Branwen
Llafur Cariad
(Hughes, 2001)
Ffatri Serch (Gawsg Carreg Gwalch, 2003)
Lleidr Da (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Hamlet (UWIC, 2005)
Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ei waith ei hun
2. Swyddogaeth y Dramodydd
3. Hanes y ddrama Gymraeg

Oedran y Gynulleidfa: 16+

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z