Rhestr o Awduron
OWEN, GERALLT LLOYD
Bardd a meuryn. Ganed Gerallt Lloyd Owen yn Llandderfel yn Sir Feirionnydd, ond symudodd y teulu yn fuan wedi hynny ac ym mhentref y Sarnau y’i magwyd, ar aelwyd a oedd yn ymhel yn frwd â’r Pethe ac yn eisteddfota’n selog. Cafodd ei addysg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala, ac yn y Coleg Normal, Bangor a bu’n athro ysgol gynradd am gyfnod byr cyn iddo newid byd trwy sefydlu’r wasg lwyddiannus, Gwasg Gwynedd. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, am ei awdlau ’Afon’ (1975) a ’Cilmeri’ (1982), Mae’n adnabyddus wrth gwrs fel Meuryn y gystadleuaeth radio boblogaidd, Talwrn y Beirdd, ac Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae Gerallt yn ymddangos ar CD Steve Eaves, Moelyci, yn darllen darnau o’i gerdd ’Y Gwladwr’.
Llyfryddiaeth ddethol
Cerddi’r Cywilydd (Cyhoeddiadau Tir Iarll, 1972)
Fy Nghawl fy Hun (Gwasg Gwynedd, 1999)


