Rhestr o Awduron

OWEN, WILLIAM

Trem y Foel, Borth–y–Gest, PORTHMADOG LL49 9TP
Ffôn: (01766) 513620

Dramodydd a llenor. Brodor o ogledd Môn. Addysgwyd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Pennaeth Adran Addysg Grefyddol, Ysgol Eifionydd cyn ymddeol yn gynnar. Swyddog Cyhoeddi Gwasg Pantycelyn rhwng 1991 a 1995. Darlledwr mynych ar Radio Cymru. Nifer o wobrau Eisteddfodol yn cynnwys Tlws Drama Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llangefni, 1983.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Robin ’Rengan Las a’i Debyg (Ty ar y Graig)
Llacio’r Gengal (Gomer)
Rwbath at yr Achos (Gomer)
Y Llanc Nad Yw Mwy (Carreg Gwalch)
Tawelu’r Ysbrydion (Carreg Gwalch)
Dal i Frygowthan (Gwasg y Bwthyn, 2005)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ei lyfrau a’i waith ei hun
2. Yr ysgrif bortread ac atgofion fel cyfryngau llenyddol
3. Llenyddiaeth sy’n trafod cyfnod plentyndod
4. Rhai agweddau ar y ddrama
5. Dawn lenyddol Môn

Oedran y Gynulleidfa: disgyblion ysgolion uwchradd (14-18) / oedolion