Rhestr o Awduron

OWEN–REES, LYNN

99 Stryd y Coleg, RHYDAMAN, Sir Gâr SA18 2BT
Ffôn: (01269) 597636

Awdur, golygydd a beirniad. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg a Choleg Diwinyddol Caerfyrddin cyn troi at newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus. Cyn Swyddog Hysbysrwydd yn y Swyddfa Gymreig, Rheolwr Cyhoeddusrwydd i Gwmni Theatr Cymru a Phennaeth Cyhoeddi Gwasg Gwynedd. Tiwtor Cymraeg a darlithydd WEA. Sylfaenydd Ffilmiau’r Glyn a chynhyrchydd fideo. Golygydd gweithredol grwp Papurau’r Herald o 1979 – 1982 a golygydd cynorthwyol Y Faner hyd 1992. Pennaeth Newyddion cyntaf Radio Ceredigion. Bellach yn gweithio’n rhan amser i Radio Sain Abertawe ac yn ysgrifennu, cynhyrchu a golygu ar ei liwt ei hun.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cofio Gwenallt (Gomer, 1978)
Gorffennaf Gwych (Gwynedd, 1976)
Radio’r Werin, Gogledd Cymru (Cyh. Mei, 1982)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Llenyddiaeth yn gyffredinol
2. Darllen / trafod ei waith ei hun, awduron eraill a chynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol
3. Gweithdai ysgrifennu creadigol – barddoniaeth neu ryddiaith yn ôl y galw

Oedran y Gynulleidfa: disgyblion hyn / pobl ifainc / oedolion