Rhestr o Awduron
LLEWELYN, DAFYDD
Awdur nofelau a drama^u ar gyfer oedolion a phlant ifanc. Ganed yn Abergele, a graddiodd mewn Drama a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol ym Mangor. Bu’n gwneud gwaith ymchwil a dysgu cyn cael ei benodi’n Olygydd Sgriptiau ‘Pobol y Cwm’ o fewn y BBC. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle 1990, daeth yn fuddugol yng ngystadleuaeth Y Ddrama Hir yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandeilo ym 1996, a blwyddyn yn ddiweddarch enillodd Medal Ddrama yn Eisteddfod Môn. Llwyfanwyd ei weithiau Spam Man (Theatr Na Nog) a Snog Spar (Theatr Frân Wen) yn y theatr, a darlledwyd dwy ddrama o’i eiddo, Plisgyn Wy a Y Quiche Berffaith ar Radio Cymru
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Tocyn i’r Nefoedd (Dref Wen, 2004)
Diwrnod Dwynwen: Chwe Drama Fer ar y cyd (Sgript Cymru, 2004)
Drama^u’r Drain: Dawn Dweud (Y Lolfa, 2006)



