Rhestr o Awduron
HARKER, ESYLLT
Fflat Llawr Uchaf, 46 Carlton Terrace, Abertawe, SA1 6AE
Ffôn: (01792) 301398
e–bost: mana@corffallais.co.uk neu mana@bodyandvoice.co.uk
Cyfarwydd a chantores. Magwyd yn Birkenhead, yr Almaen a’r Alban. Addysgwyd yng Nghaeredin – prifysgol a choleg addysg. Bu’n byw wedyn yng Ngwlad Groeg, Llundain, Caerdydd ac er 1993, Gwynedd. Chwedleua er 1994 - cafodd gymorth gan CCC i sefydlu cyflwyniadau i ferched (Hen Wlad fy Mamau) ac i blant (Rhibidirythm) ym 1996, ar gyfer perfformiad unigol (Mana - Hanes Menyw) yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1997. Athrawes gynradd drwyddedig, actores broffesiynol ac ymarferwraig Shiatsu-Iachaol. Wedi gweithio hefyd gyda’r henoed a phobl ddifrifol anabl. Diddordeb mewn cyfuno mynegiant creadigol a phrosesau iacháu. Gall weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu Groeg.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Cyflwyniadau Chwedl a Chân i gynulleidfaoedd amrywiol o oedolion - deunydd traddodiadol, ar y cyfan, o Gymru a mannau eraill
2. Gweithdai Corff a Llais - sut i gyflwyno/sut i greu stori a chân
3. Rhibidirythm i blant 4-12 oed. Cyfuno byd y dychymyg a’r byd naturiol
4. Hen Wlad fy Mamau - i ferched yn bennaf
Oedran y Gynulleidfa: plant ysgolion cynradd / oedolion


