Rhestr o Awduron
HARVEY, MICHAEL
45 York St, Treganna, Caerdydd, CF5 1NDFfôn: 07812 166 138
e–bost: mharvey@fish.co.uk
gwefan: www.michaelharvey.org
Storïwr. Yn ogystal â’i waith beunyddiol yng Nghymru mae Michael wedi perfformio mewn gwyliau rhyngwladol yn yr Alban, Iwerddon, Cymru, Ewrop a Gogledd America ac mae ganddo stôr eang o straeon ar ei gôf o Gymru, y gwledydd Celtaidd eraill a’r tu hwnt. Y mae wrth ei fodd yn perfformio i unrhyw oedran gan gynnwys dosbarthiadau derbyn ac oedolion. Mae’n perfformio ar ei ben ei hunan neu gydag artistiaid eraill megis dawnswyr (e.e. India Dance Wales), cerddorion ac artistiaid gweledol. Mae’n defnyddio straeon ar lafar fel sbardun i waith creadigol pobl eraill gan gynnwys hybu llythrennedd plant mewn ysgolion a helpu oedolion sydd eisiau adrodd straeon. Y mae’n arwain prosiectau estynedig yn gyson ar gyfer plant ac oedolion mewn ysgolion a chanolfannau eraill.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Perfformiadau Adrodd Straeon
2. Gweithdai



