Rhestr o Awduron
OWEN, MEURIG
10 Deans Walk, LLANELWY LL17 0NE
Ffôn: (01745) 582531
Amaethwr/awdur/newyddiadurwr. Ganed yn Nhywyn, Abergele a magwyd yng Nghefnmeiriadog ger Llanelwy. Addysgwyd yn Ysgolion Gramadeg Dinbych ac Abergele. Bu’n olygydd y cylchgrawn Cofio’r Cefn (1976–96). Ysgrifennodd Hanes Capel Cefnmeiriadog (ar y cyd gyda W. Morgan Davies). Er 1989 bu’n newyddiadura yn gyson i Wales on Sunday (materion cefn gwlad, a’r celfyddydau yng ngogledd Cymru), Western Mail (portreadau, materion gwledig ac ysgrifau teithiol), ac i Farming Wales. Mae hefyd yn ysgrifennydd papur bro Y Glannau, yn ogystal â Chylch Llenyddol Plas Penucha, Sir y Fflint, ac wedi cynnal cylchoedd trafod yn Ysgol Haf Llenyddol Swanwick a Scarborough.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ways with Hazel and Horn (gyda B G Jones, Carreg Gwalch)
Vale of Clwyd Farmers Limited 1910/1985; a History of the First 75 years (Vale of Clwyd Farmers Limited)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Ysgrifennu i bapurau newydd
2. Cyfweliadau llwyddiannus a’r canlyniad ar bapur
3. Gweithdai


