Rhestr o Awduron

DAVIES, CERI

Adran y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg, Prifysgol Abertawe, ABERTAWE SA2 8PP
Ffo^n: 01792 295187
E–bost: c.davies@abertawe.ac.uk

Ysgolhaig clasurol, hanesydd llenyddol.  Yn enedigol o’r Betws, Rhydaman, treuliodd y rhan fwyaf o’i fachgendod yn Nhreorci ac yna Aberystwyth.  Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Coleg y Brifysgol, Caerdydd a Choleg Iesu, Rhydychen.  Yn awr yn Athro’r Clasuron ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac yn Bennaeth Adran y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg.  Ymhlith ei ei feysydd ymchwil y mae llenorion Lladin y Dadeni Dysg yng Nghymru, ynghyd a^ holl hanes y traddodiad clasurol yng Nghymru.  Ar hyn o bryd y mae’n gweithio ar olygiad a chyfieithiad (ynghyd a^ rhagymadrodd a nodiadau) o destun Lladin Historiae Brytannicae Defensio Syr John Prys, a argraffwyd gyntaf yn 1573.

Rhai cyhoeddiadau:
Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551–1632 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980)
Latin Writers of the Renaissance, Cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1981)
Welsh Literature and the Classical Tradition (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; argraffiad clawr meddal, 1998)
John Davies o Fallwyd, Cyfres Lle^n y Llenor (Gwasg Pantycelyn, 2001)
Ei Horas a’i Gatwlwsn ar y llawr: y Clasuron a llenyddiaeth Gymraeg y ddwy ganrif ddiwethaf, Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2004)
Dr John Davies of Mallwyd, Welsh Renaissance Scholar (Golygydd) (Gwasg Prifysgol Cymru)
The Renaissance and the Celtic Countries (Golygydd, ynghyd a^ John E. Law) (Blackwell, 2005)