Rhestr o Awduron
HOPWOOD, MERERID

Fe’i ganed yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari, cyn mynd ymlaen i’r coleg yn Aberystwyth. Wedi cyfnod yn University College yn Llundain, derbyniodd radd doethur mewn Llenyddiaeth Almaeneg. Bu’n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Yn 2001 enillodd Gadair Eisteddfod Dinbych a’r cylch am ei hawdl "Dadeni" – y ferch gyntaf erioed i gyflawni’r fath gamp. Mae’n aelod o fwrdd Barddas ac yn frwd o blaid poblogeiddio’r cynganeddion, yn arbennig ymhlith merched a phobl ifainc. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2005.
Llyfryddiaeth ddethol:
Johann Peter Hebel and the Rhetoric of Orality (Stuttgart, 1994)
Sarah Kirsch (cyd–olygydd David Basker) 1997
Cyfieithiadau o gerddi yn Und suchte meine Zunge ab nach Worten gol. Andrea McTigue (Berlin, 1996)
Singing in Chains (Gomer, 2005)