Rhestr o Awduron
AP DAFYDD, MYRDDIN
Ysgubor Plas, Llwyndyrys, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NG
Ffôn: (01758) 750440 (cartref); (01758) 750432 neu (01492) 642031 (gwaith)
e–bost: myrddin@carreg-gwalch.co.uk
Magwyd yn Llanrwst ac addysgwyd yn ysgolion y dref a choleg Aberystwyth. Ym 1980, sefydlodd Wasg Carreg Gwalch, sy’n cynnig gwasanaeth argraffu a chyhoeddi llyfrau. Cyhoeddodd nifer o ddramâu, gan gynnwys oddeutu chwech o’i waith ei hun, ond mae’r wasg erbyn hyn yn arbenigo ar lên gwerin, cylchgrawn Llafar Gwlad, barddoniaeth gyfoes, a phob math o ddeunydd darllen difyr i blant ac oedolion. Cyfansoddodd eiriau ar gyfer caneuon, mae’n barddoni ac enillodd gadeiriau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990 a Thyddewi 2002.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cywyddau Cyhoeddus (Golygydd)
Cyfres Cerddi Lloerig i Blant (Golygydd)
Pen Draw’r Tir (Gwasg Carreg Gwalch)
Clawdd Cam (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
Cerddi Cyntaf (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Pybcrol Llenyddol Caernarfon (Golygydd) (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith ei hun
2. Cywyddau a cherdd dafod
3. Barddoniaeth i blant, darllen a gweithdai, cynradd ac uwchradd
Oedran y Gynulleidfa: plant cynradd / uwchradd / oedolion


