Rhestr o Awduron
AP GWILYM, GWYNN
Y Rheithordy, Mallwyd, MACHYNLLETH, Powys, SY20 9HJ
Ffôn: (01650) 531217
Bardd ac awdur. Ganwyd ym Machynlleth. Addysgwyd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, Prifysgol Iwerddon – Gaillimh a Wycliffe Hall Rhydychen. Deil raddau MA Cymru ac MA Rhydychen. Rheithor Plwyf Bro Ddyfi Uchaf (eglwysi Mallwyd, Cemais, Llanymawddwy, Darowen a Llanbryn–mair) a Darlithydd mewn Hebraeg ac Astudiaethau’r Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Yn 1983 enillodd wobr Cyngor Celfyddydau Cymru am ei gyfrol o farddoniaeth, Gwales, ac yn 1986 ef oedd Bardd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun am ei awdl, ’Y Cwmwl’.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Awdur
Y Winllan Werdd (Gwasg Christopher Davies, 1977)
Da o Ddwy Ynys (Gwasg Christopher Davies, 1978)
Storïau Byrion Pàdraig Pearse (Cyfieithiad) (Gwasg y Sir, 1979)
Gwales (Gwasg Gwynedd, 1984)
Llefarodd wrthym ni mewn Mab, Cyfres o Ddydd i Ddydd (Cyngor Eglwysi Cymru)
Yr Ymyl Aur (Gwasg Gwynedd, 1997)
Golygydd
Dofwy, Cyfres y Beirdd Bro (Gwasg Christopher Davies, 1978)
Eisteddfota 2 (Gwasg Christopher Davies, 1979)
Y Flodeugerdd Delynegion (Gwasg Chritopher Davies, 1980)
Meistri a’u Crefft, Casgliad o Ysgrifau Beirniadol Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1981)
Thomas Gwynn Jones, Cyfres y Meistri (Gwasg Christopher Davies, 1982)
Gogoneddus Arglwydd, Henffych Well (Detholiad o Ryddiaith a Barddoniaeth Gristnogol Gymraeg drwy’r Canrifoedd) (Pwyllgor Darlleniadau CYTUN)
Cyfrannwr
50 o Gywyddau Dafydd ap Gwilym (gol. Alan Llwyd) (Gwasg Chritopher Davies, 1979)
Llawlyfr y Beibl (Cyhoeddiadau’r Gair, 1997)
Cyd-olygydd
Bro’r Eisteddfod, Maldwyn a’i Chyffiniau (gyda Richard H. Lewis) (Gwasg Christopher Davies, 1980)
Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif (gydag Alan Llwyd) (Cyhoeddiadau Barddas, 1998)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen neu drafod ei waith ei hun
2. Trafod llenyddiaeth
Oedran y Gynulleidfa: disgyblion ysgol ac oedolion


