Rhestr o Awduron

DAFYDD, FFLUR

Safle we: www.fflurdafydd.com

Fflur Dafydd

Nofelydd a chyfansoddwraig o Gaerfyrddin.  Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth, cyn mynd ymlaen i wneud MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia, ac yna doethuriaeth ar waith y bardd R.S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru Bangor.  Fe fu’n awdur preswyl ar Ynys Enlli ac yn Helsinki, ac mae hi wedi ymddangos mewn gwyliau llenyddol a cherddol ar draws Ewrop.  Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, a hi oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006.

Detholiad o’i gwaith
Lliwiau Liw Nos (Y Lolfa, 2005)
Atyniad (Y Lolfa, 2006)