Rhestr o Awduron

DAVIES, BRYAN MARTIN

27 Vicarage Fields, Rhiwabon, WRECSAM LL14 6LG
Ffôn: (01978) 810170

Bardd. Ganed ym Mrynaman, Dyfed. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Lerpwl. Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970, a Bangor 1971, a Gwobr Cyngor y Celfyddydau, 1985. Wedi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel Pennaeth Adran Gymraeg Coleg Chweched Dosbarth Iâl, Wrecsam.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Lleoedd (Barddas)
Darluniau ar Gynfas (Gomer)
Y Golau Caeth (Gomer)
Gardag (Christopher Davies)
Pan Oedd y Nos yn Wenfflam (Barddas)
Nadolig Plentyn yng Nghymru (Cyfieithiad o A Child’s Christmas in Wales – Dylan Thomas, Gomer)
Prolog Chwedlau Caergaint (Cyfieithiad mydryddol o Prologue to the Canterbury Tales Chaucer) (Gomer)
Deuoliaethau (Gomer, 1976)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith ei hun
2. Llenyddiaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif