Rhestr o Awduron
DAVIES, GRAHAME
58 Stryd Hamilton, CAERDYDD CF11 9BPFfôn: (029) 2066 4241
gwefan: www.grahamedavies.com

Bardd, golygydd a beirniad llenyddol. Ganed yng Nghoedpoeth ger Wrecsam, graddiodd mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Anglia, Caergrawnt, a derbyniodd ddoethuriaeth oddi wrth Prifysgol Cymru Caerdydd, ym 1997. Bellach ef sy’n gyfrifol am wasanaethau arlein Cymraeg y BBC. Mae ei yrfa fel newyddiadurwr a chynhyrchydd wedi dod â nifer o wobrau Cymreig a Phrydeinig i’w ran. Y mae’n awdur naw o lyfrau, gan gynnwys Adennill Tir, (Barddas, 1997) a enillodd Wobr Goffa Harri Webb, Cadwyni Rhyddid, (Barddas, 2001) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn, a Rhaid i Bopeth Newid, (Gomer, 2004) a roddwyd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2005. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys Saesneg, Almaeneg, Pwyleg, Latfieg, Maltaeg, Bwlgareg, Astwreg a Galiseg. Mae ei gerddi wedi eu cynnwys mewn sawl blodeugerdd gan gynnwys The Bloodaxe Book of Modern welsh Poetry, Blodeugerdd Barddas o Farddoniaeth Gyfoes, Cerddi’r Troad, a Hoff Gerddi Cymru ac mae wedi ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau megis y Times, y Times Literary Supplement, Poetry London, y Literary Review yn America, a’r Yearbook of Welsh Writing in English. Mae’n cyfrannu erthyglau ac adolygiadau yn rheolaidd i gyfnodolion megis Barddas, Poetry Wales, Barn, Taliesin, Planet a New Welsh Review, ac mae ei farddoniaeth ar faes llafur ysgolion Cymru. Mae’n golofnydd rheolaidd gyda Barddas. Mae’n darllen yn rheolaidd mewn gwyliau celfyddydol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Gydwladol Llangollen, Gwyl Greenbelt, Poesiefestival Berlin, nifer o achlysuron yng Ngwyl y Gelli ac yn y Royal Festival Hall yn Llundain. Mae wedi cynrychioli Cymru mewn gweithgareddau llenyddol yn Ewrop ac America, ac mae wedi ymddangos yn aml ar radio a theledu. Mae’n ddarlithydd cysylltiol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd (Ysgrifennu Creadigol), ac yn Gymrawd Coleg Goodenough, Llundain. Mae Grahame hefyd yn Aelod Bwrdd yr Academi.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Adennill Tir (Barddas, 1997)
Sefyll yn y Bwlch: Cymru a’r Mudiad Gwrth–Fodern-Astudiaeth o Waith T.S. Eliot, Simone Weil, Saunders Lewis ac R.S. Thomas (Prifysgol Cymru, 1999)
Oxygen (Seren, 2000) gydag Amy Wack
Cadwyni Rhyddid (Barddas, 2001)
The Chosen People:Wales and the Jews (Seren, 2002)
Ffiniau / Borders (Gomer, 2002)
Rhaid i Bopeth Newid (Gomer, 2004)
The Big Book of Cardiff (Seren, 2005) gyda Peter Finch
Achos (Barddas, 2005)
Prynwch gopi o’r llyfrau hyn:
Gwales
Amazon
Sylwadau Beirniadol:
"Un o leisiau mwyaf annibynnol, a chan hynny, mwyaf diddorol barddoniaeth Gymraeg gyfoes."
Gerwyn Wiliams.
“Dychanwr heb ei ail,” John Gruffydd Jones.
"Dyma’r nofel ôl-genedlaetholaidd gyntaf," Dafydd Elis-Thomas am Rhaid i Bopeth Newid.
“Gall weld drwy dwyll a ffalster y bywyd dinesig, cyfryngol yn well na neb, ac mae’n ddeifiol yn ei weledigaeth o wacter y bywyd dinesig…mae gan y bardd hwn ddigon o feistrolaeth ar iaith i aflonyddu arnom, ac i gyrraedd at wraidd yr enaid.” Alan Llwyd.
“Ceir yma fyd-olwg newydd ar ein bywydau bob dydd ac mae’n orlwythog o ddelweddau ac ymadroddion cofiadwy.” Menna Elfyn.
“Mae ganddo ddawn dweud anhygoel. Nid oes un gerdd yn y gyfrol bron nad yw’n cynnwys brawddegau gwirioneddol dreiddgar a chlyfar.” Meirion MacIntyre Huws.
Erthyglau a Blodeugerddi sylweddol:
"Cyfannu" a "Making Whole", Beyond the Difference, Welsh Literature in Comparative Contexts, Goln. Alyce von Rothkirch a Daniel Williams, (Gwasg Prifysgol Cymru, 2004), 204-205. Cerdd mewn llyfr festschrift i anrhydeddu’r Athro M. Wynn Thomas.
"Be ’Di Llyfr y Flwyddyn Rhwng Ffrindia’?’ Barddas, Rhif 278, Gorffennaf / Awst 2004, 50-52. Erthygl ar y profiad o fod yn feirniad ar gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
"Sleeping with the Enemy: The Tensions of Literary Translation", New Welsh Review, Rhif 64, Haf 2004, 58-64. Adolygiad o agweddau tuag at gyfieithu llenyddol o’r Gymraeg i’r Saesneg.
"Dechreuadau: Y Gymraeg a’r Cyfryngau Newydd", Cyfrwng Media Wales Journal, Vol. 1, 2004, 26-41. Eds. James Thomas, Gwenno Ffrancon. Asesiad trylwyr o’r cyfryngau newydd Cymraeg, yn canolbwyntio’n arbennig ar BBC Cymru’r Byd.
Diffinio Cenedl: Cymru a’r BBC, BBC Cymru, 2004. Ar y cyd gyda Patrick Hannan. Traethodau gan amryw o awduron ar rôl y BBC yng Nghymru.
"Welsh and Jewish: Responses to Wales by Jewish Writers", Culture and the State, University of Alberta, Edmonton, 2004, Volume 3, 211. Goln. James Gifford, Gabrielle Zezulka-Mailloux. Erthygl yn seiliedig ar ddarlith a draddodwyd i gynhadledd "Culture and the State" yn Edmonton, Canada, ym Mai 2003.
"Borders in the Mind", Agenda, Gwanwyn 2004, 4-9. Erthygl yng nghyfnodolyn y Sefydliad Materion Cymreig yn ymwneud â’r profiad o feddylfryd y ffin yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Gellir llwytho’r erthygl fel ffeil pdf o wefan y Sefydliad.
Plamak (“Fflam”), Rhif. 3-4, Bulgaria, 2002. Rhifyn arbennig o gylchgrawn llenyddol amlycaf Bwlgaria, wedi ei neilltuo i awduron o Gymru.
“Bryan Martin Davies”, Mae’n Gêm o Ddau Fileniwm, Beirdd a Barddoniaeth, (Carreg Gwalch, 2002). Gol. Myrddin ap Dafydd. Astudiaeth feirniadol estynedig o’r bardd pwysig hwn gyda dadansoddiad manwl o rai o’i gerddi mewn llyfr sy’n cynnwys astudiaethau o rai o feirdd Cymraeg mwya’r 20fed Ganrif.
“Adennill Tir”, Merthyr a Thaf, (Gomer, 2001). Gol. Hywel Teifi Edwards. Traethawd hunangofiannol yn ymwneud â chefndir yr awdur ym Merthyr Tudful, mewn casgliad o lenyddiaeth Gymraeg am Ferthyr a Chwm Taf.
“Wythnos yng Nghymru’r Byd”: Chwileniwm (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002). Gol. Angharad Price. Astudiaeth o flwyddyn gyntaf y gwasanaeth rhyngrwyd Cymraeg BBC Cymru’r Byd, ynghyd â myfyrdod ar dechnoleg yn gyffredinol, mewn casgliad o draethodau ar lenyddiaeth a’r dechnoleg newydd.
“Success against the odds”, New Welsh Review Rhif. 55, 2002. Astudiaeth feirniadol o’r beirdd Cymraeg groau dan 45 oed - Gwyneth Lewis, Elin ap Hywel, Twm Morys, Emyr Lewis ac Iwan Llwyd.
“Rhagfur a Rhagfarn: gwrth-semitiaeth yng ngwaith Saunders Lewis, T.S.Eliot a Simone Weil”; Taliesin, Rhif. 100, 2000. Astudiaeth o wrth-semitiaeth yng ngwaith Saunders Lewis, T.S.Eliot a Simone Weil.
“Resident Aliens; R.S.Thomas and the Anti-Modern Movement”: Welsh Writing in English, 7/2001-2 Gol. Tony Brown. Astudiaeth estynedig (8,000 o eiriau) o R.S.Thomas fel llenor gwrth-fodern.
“Minority Report"; Cardiff Central, Gol. Francesca Rhydderch, Gomer, 2003. Traethawd hunangofiannol ar gefndir yr awdur yng Nghaerdydd mewn casgliad o ddarnau gan awduron gyda chysylltiadau â’r brifddinas.
The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry, Goln. John Rowlands a Menna Elfyn. (Bloodaxe, 2003). Pedair cerdd ac 11 o gyfieithiadau mewn blodeugerdd bwysig yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif mewn cyfieithiad Saesneg.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen / trafod ei waith ei hun
2. Gwaith R S Thomas
3. Gwaith Simone Weil
4. Gwaith T S Eliot
5. Cymru a’r Iddewon
Oedran y Gynulleidfa: ysgol uwchradd / oedolion



