Rhestr o Awduron

EIRIAN, SIÔN

Sion EirianBardd, dramodydd, sgriptiwr. Ganed Sion Eirian ym 1954 yn fab i’r bardd Eirian Davies a’r golygydd Jenny Eirian Davies. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn yr Wyddgrug cyn graddio mewn athroniaeth o Aberystwyth. Ym 1978 enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae bellach yn awdur amser–llawn sydd wedi cyhoeddi nofel (Bob yn y Ddinas) ac un gyfrol o farddoniaeth, Plant Gadara, ond mae’n sgwennu’n bennaf ar gyfer y theatr a’r teledu, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n awdur nifer o ddramâu gafaelgar a chignoeth fel Epa yn y Parlwr Cefn, a lwyfannwyd gan gwmni Dalier Sylw ym 1994, a Paradwys Waed, a gynhyrchwyd gan gwmni Bara Caws yn 2000. Mae hefyd wedi llunio libretto Saesneg newydd ar gyfer The Soldier’s Tale, ac ef sgriptiodd y fersiwn newydd o’r ddrama roc Nia Ben Aur a fu ar daith trwy Gymru yn rhan gyntaf 2003. Yn 2002 etholwyd ef yn Gymrodor Anrhydeddus gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Dros Bont BrooklynMae wedi cyfieithu nifer o ddramau llwyfan i’r Gymraeg gan gynnwys Dros Bont Brooklyn (A View From the Bridge) Arthur Miller, Ty Dol (A Doll’s House) Henrik Ibsen ac Arolygydd y Llywodraeth (The Government Inspector) Nikolai Gogol. Cyhoeddwyd y tair yma gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyfieithodd Blodeuwedd Saunders Lewis i’r Saesneg ar gyfer yr Actors Touring Company, Llundain a llwyfanwyd y fersiwn yma, Woman of Flowers ym 1992. Hefyd addasodd Siwan Saunders Lewis ar gyfer Radio 4 ac fe ddarlledwyd hon dan y teitl The Royal Bed ym 1994. Yn 2007 llwyfanwyd ei addasiad o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis gan Theatr Genedlaethol Cymru, a chyhoeddwyd yr addasiad gan Wasg Gomer.