Rhestr o Awduron
ELLIS, TOM
Ganed yn Rhosllanerchrugog ger Wrecsam yn 1924. Bu’n rheolwr pwll glo yn yr ardal am 13 mlynedd. Rhwng 1970 a 1983 bu’n aelod seneddol yn etholaeth Wrecsam. Cynrychiolodd y Blaid Lafur am flynyddoedd ond yna bu’n allweddol iawn yn natblygiad plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, gan gynrychioli’r blaid honno tan iddo golli’i sedd yn etholiad cyffredinol 1983. Rhwng cloriau Dan Loriau Maelor gwelir cyferbyniad rhwng bywyd caled, tanddaearol y glöwr a bywyd parchus–arswydus yr Aelod Seneddol.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Dan Loriau Maelor (Gomer, 2003)
R. S. Thomas a’i Gerddi (Y Lolfa, 2008)



