Rhestr o Awduron

EVANS, ALED LEWIS

28 Ffordd Jubilee, Pentrefelin, WRECSAM LL13 7NN
Ffôn: (01978) 354164

Aled Lewis EvansBardd ac awdur mewn amrywiol gyfryngau. Ganwyd ym Machynlleth a threuliodd ei blentyndod yn Y Bermo. Addysgwyd ef wedyn yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam ac ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi gan Barddas ym 1989. Bu’n darlledu am ddeng mlynedd ar radio lleol Sain y Gororau o 1983–1993. Bu’n athro Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg yn Ysgol Morgan Llwyd, a bellach mae’n gyfrifol am Astudiaethau’r Cyfryngau, a dysgu Drama yno. Darlledwyd ei nofel am ardal y Bermo ar Radio Cymru, ac mae ei waith wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau, a blodeugerddi diweddar Gwasg Carreg Gwalch i blant, a Ffwl yn y Dwr (Gomer) sy’n targedu’r arddegau. Fe’i gwobrwywyd deirgwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru: ym 1991 am ei Gyfrol o Gerddi i Bobl Ifainc, ym 1998 am Fonolog, ac ym 1999 am Flodeugerdd o Gerddi addas i’r oedran 12–14.  Mae Aled yn aelod Pwyllgor Aelodau yr Academi.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Tonnau (Barddas, 1989)
Ga i ddarn o awyr las heddiw? (Gomer, 1991)
Sglefrfyrddio (Barddas, 1994)
Rhwng Dau Lanw Medi (Carreg Gwalch, 1994)
Wavelengths (ID Books, 1995)
Bro Maelor (Carreg Gwalch, 1996)
Mendio Gondola (Barddas, 1997)
Troeon (Cyhoeddiadau’r Gair, 1998)
Mixing The Colours (ID Books, 1999)
Y Caffi (Pantycelyn, 2002)
Aur yn y Gwallt, (Gwasg y Bwthyn, 2004)
Dim Angen Creu Teledu Yma (Barddas, 2006)

Pynciau a gynigir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen neu drafod ei waith ei hun
2. Sgwrs am lenyddiaeth ei daid - John Evans, Llanegryn
3. Darlith "Y Bardd ar y Ffin"
4. Cerddi’r Tymhorau
5. Cerddi’r Cyfryngau
6. Nadolig y Beirdd
7. Cynnal gweithdai llenyddol amrywiol yn ôl y galw
8. Cyflwyniadau aml-gyfrwng megis Y Ffordd Ddiarffordd, a dathliadau megis Dydd Gwyl Ddewi, a themâu amrywiol eraill

Oedran y Gynulleidfa: Oedolion / pobl ifainc a phlant yn ôl y galw