Rhestr o Awduron

GWANAS, BETHAN

Ffrwd y Gwyllt, Rhydymain, DOLGELLAU, Gwynedd LL40 2AH
Ebost: beth@bethan-gwanas.demon.co.uk

Bethan GwanasAwdur nofelau, llyfrau taith, straeon byrion, dramâu llwyfan, sgriptiau teledu a cholofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg. Merch fferm o ardal Dolgellau, enillodd radd mewn Ffrangeg cyn gweithio gyda VSO yn Nigeria. Bu’n gweithio i’r cyfryngau a’r Urdd a bu’n athrawes Ffrangeg a gweithgareddau awyr agored. Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 1985, a Gwobr Tir na n-Og yn 2001 a 2003 am Llinyn Trôns a Sgôr

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Amdani! (Y Lolfa, 1997)
Dyddiadur Gbara (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)
Bywyd Blodwen Jones (Gomer, 2001)
Llinyn Trôns (Gomer, 2002)
Blodwen Jones a’r Aderyn Prin (Gomer, 2001)
Popeth am Gariad…wel, bron (Gwynedd, 2001)
Sgôr (Y Lolfa, 2002)
Byd Bethan (Gomer, 2002)
Tri Chynnig i Blodwen Jones (Gomer, 2003)
Ceri Grafu (ACCCAC/Y Lolfa, 2003)
Gwrach y Gwyllt (Gomer, 2003)
Hi yw fy ffrind (Y Lolfa, 2004)
Ar y Lein (Hughes, 2004)
Mwy O Fyd Bethan (Gomer, 2005)
Pen Dafad (ACCAC/Y Lolfa, 2005)
Hi Oedd Fy FFrind (Y Lolfa, 2006)
Ar y Lein Eto (Gwasg Gwynedd, 2006)
Os Mêts (Y Lolfa, 2007)
Gwledydd Bychain (Y Lolfa, 2008)
Ar y Lein Eto Fyth (Gwasg Gwynedd, 2008)
(Ramboy, Cyfieithiad Saesneg o Pen Dafad ar y ffordd)

Bethan Gwanas

 

 

 

 Pynciau a gynigir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
 1. Bethan a’i llyfrau.
 2. Gweithdy Ysgrifennu Creadigol
 3. Dyddiadur Mewn Llun (hanes ysgrifennu Dyddiadur Gbara gyda sleidiau o Nigeria)

 Oedran y Gynulleidfa: pob oed.