Rhestr o Awduron

EVANS, DONALD

Bardd. Ganed Donald Evans ym 1940 yn Esgair Onwy Fawr, fferm ar Fanc Siôn Cwilt yng Ngheredigion. Graddiodd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a dysgu Cymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth. Mae bellach yn byw yn Nhalgarreg. Enillodd y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r cylch ym 1977 ac yn Eisteddfod Dyffryn Lliw ym1980, ac mae’n fardd cynhyrchiol, yn feistr ar y mesurau caeth ond yn hoff hefyd o gyfuno cynghanedd a’r wers rydd.

Llyfryddiaeth ddethol
Cread Crist (Cyhoeddiadau Barddas1986)
Wrth Reddf (Cyhoeddiadau Barddas, 1994)
Y Cyntefig Cyfoes (Cyhoeddiadau Barddas, 2000)