Rhestr o Awduron

EVANS, RAY (Mrs)

7 Troed–y–Rhiw, Rhiwbeina, CAERDYDD CF4 6UR
Ffôn: (029) 2062 5461

Ganed yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Llandysul a Choleg Prifysgol Aberystwyth. Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Abergwaun am ei nofel fywgraffiadol Y Llyffant. Addaswyd y nofel ganddi yn ffilm deledu ar gyfer S4C. Bu’n aelod o dîm Morgannwg yn y gyfres radio Talwrn y Beirdd a detholwyd dwy gerdd o’i gwaith ar gyfer Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif. Bu’n sgrifennu storïau byrion a hefyd sgriptiau ar gyfer y Cyngor Darlledu.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Llyffant
Daw Bola’n Gefen

Cynffon Anti Meg (Gwasg Gomer)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
Darllen a thrafod ei gwaith ei hun, gan gynnwys cefndir cymdeithasol ei chyfrolau

Oedran y Gynulleidfa: Plant ysgol o bob oedran. Grwpiau o oedolion (gan gynnwys dysgwyr) sydd â diddordeb yn ei gwaith

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z