Rhestr o Awduron
EVANS, WILLIAM JOHN
14 Llys Nant Fer, GWAUNCAEGURWEN, Rhydaman SA18 1EP
Ffôn: (01269) 823791
Bardd ac awdur, sydd yn ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ganwyd yng Nghwmtawe. Bu’n löwr am dros ddeugain mlynedd – profiad sydd yn ysbrydoli ei lyfr, Atgofion Y Pwll. Y mae hefyd wedi ysgrifennu rhai dramâu yn ymwneud â diogelwch ar gyfer y Bwrdd Glo. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Harlech o dan nawdd Undeb Cenedlaethol y Glöwyr ac i Goleg Ruskin o dan nawdd y Bwrdd Glo.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Atgofion y Pwll / Pit Memories
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
Trafod effaith y diwydiant glo ar ddiwylliant llenyddol y cartref a’r gymuned gan arddangos llawysgrifau, lluniau a hen ddogfennau
Oedran y Gynulleidfa: plant ysgol 6–18 ac hefyd oedolion fel WEA, Merched y Wawr, etc.



