Rhestr o Awduron
POWELL, ROBAT
Ganed Robat Powell yn Nhredegar, a dysgodd Gymraeg. Wedi iddo raddio mewn Almaeneg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain, bu’n dysgu Almaeneg a Ffrangeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Bellach mae’n swyddog ymchwil gyda sefydliad ymchwil addysgol cenedlaethol. Roedd ei awdl arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol 1985 yn torri cwys newydd o ran cyfleu cefndir diwydiannol ei fagwraeth yn y mesurau caeth. Ef oedd y dysgwr cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Llyfryddiaeth ddethol
Yr Adduned (cyfieithiad o waith gan Dürrenmatt) (Yr Academi Gymreig, 1976)
Haearn Iaith (Gomer, 1996)


