Rhestr o Awduron
PRITCHARD, ELFYN
Heniarth, Sarnau, Y BALA, Gwynedd LL23 7LG
Ffôn: (01678) 530260
Awdur ac addysgwr. Ganed yng Ngwyddelwern yn yr hen Sir Feirionnydd. Addysgwyd yn Ysgol Ty Tan Domen, Y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor. Athro a phrifathro cynradd ym Meirionnydd, Prif Swyddog Datblygu Cynllun y Porth – cynllun iaith i ysgolion cynradd. Ymgynghorydd addysg gynradd i awdurdod Addysg Gwynedd hyd ei ymddeoliad. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001 am ei nofel Trwy’r Tywyllwch, a Gwobr Goffa Daniel Owen ym Meifod yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 am y nofel Pan Ddaw’r Dydd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Maes y Carneddau (nofel i’r arddegau, Gomer)
Dwy Law Chwith (nofel i’r arddegau, Gomer)
Cyfres Stori a Chwedl (cyfres ddarllen i blant cynradd, Gomer)
Fe Ddaeth yr Awr (nofel, Cyfres Cled i blant 9–11, Gomer)
Storïau Hans Andersen(addasiad i Gyngor y Celfyddydau,GwasgDwyfor) Trwy’r Tywyllwch (Gwasg Gomer 2001)
Pan Ddaw’r Dydd (Gomer, 2003)
Fel Nerthol Wynt (Gomer, 2005)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Llenyddiaeth plant mewn addysg
2. Trin, trafod a chyflwyno straeon
3. Stori Bywyd - bywyd mewn stori a thrwy’r stori
4. Dawn y llenor a chyfoeth yr etifeddiaeth lenyddol
5 Hyn a’r llall ym myd llên
6 Byd y gair
7 Cofio O. M. (dathlu cant a hanner mlwyddiant ei eni eleni 2008)
Oedran y Gynulleidfa: plant cynradd ac athrawon (1-2) / oedolion (3-7)


