Rhestr o Awduron

RICHARDS, GWENDA

Gwylfa, Bank Place, PORTHMADOG, Gwynedd LL49 9AA
Ffôn: (01766) 514315

Nofelydd. Ganed yng Nghaernarfon. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg y dref, y Coleg Normal ym Mangor ac yna’r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Bwriesid dymor fel athrawes, ond ers rhai blynydoedd bellach bu’n weinidog gyda’r Presbyteriaid ym Mhorthmadog. Cyfrannodd i raglenni radio a chyhoeddwyd nifer o’i hysgrifau yng nghyfnodolion ei henwad. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Daeth ei nofel Cyn Diffodd y Gannwyll ar ffurf dyddiadur Elin Glyn o’r Gwynfryn yn Llyn yn agos iawn i’r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1997.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cyn Diffodd y Gannwyll (Pantycelyn, 1998)
Canaf, Canmolaf yr Arglwydd (ar y cyd gyda Dr Elwyn Richards, Ty John Penry)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ei gwaith ei hun
2. Y nofel hanesyddol fel cyfrwng

Oedran y Gynulleidfa: oedolion. Ardal: gogledd Cymru’n bennaf