Rhestr o Awduron
ROWLANDS, JOHN
Y Goeden Eirin, Dolydd, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7EF
Ffôn: 01286 830942
Ebost: john_rowlands@tiscali.co.uk
Gwefan: http://www.ygoedeneirin.co.uk/
Nofelydd a beirniad llenyddol. Brodor o Drawsfynydd a addysgwyd yn Ysgol Sir Ffestiniog, Coleg y Brifysgol Bangor a Choleg yr Iesu, Rhydychen. Ar ôl dal swyddi yn Abertawe, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan bu’n Athro yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bellach y mae’n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Cymru, ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Y mae hefyd yn Gymrawd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Cyhoeddodd saith nofel ac amryw astudiaethau beirniadol. Enillodd Wobr Cyngor y Celfyddydau yn 1979. Ef yw golygydd cyffredinol y gyfres ’Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’ (Gwasg Prifysgol Cymru). Gyda Menna Elfyn, golygodd The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (Bloodaxe Books, 2003). Mae John a’i wraig, Eluned, hefyd yn cynnig gwely a brecwast yn eu cartref yn y Goeden Eirin gyda chroeso personol i ymwelwyr o bedwar ban byd.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ieuenctid yw ’Mhechod (Christopher Davies)
Tician Tician (Gomer)
Profiles (Gomer)
Saunders y Beirniad (Gwasg Pantycelyn, 1990)
Ysgrifau ar y Nofel (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
Unrhyw agwedd ar lenyddiaeth yr 20fed ganrif
Oedran y Gynulleidfa: Blwyddyn 11–13/oedolion


