Rhestr o Awduron
STRANGE, MORFUDD
Gelli Aur, 8 Trefaenor, Comins Coch, ABERYSTWYTH, Ceredigion SY23 3UB
Ffôn: (01970) 623568
Ganed yn Y Rhiwiau, Llansannan. Addysgwyd yng Ngholeg Addysg Cartrefle a Choleg y Brifysgol Aberystwyth. Bu’n athrawes lawn amser am chwarter canrif, a darlithydd ail–iaith mewn dosbarthiadau nos i oedolion. Awdures dros 60 o lyfrau ar destunau amrywiol i blant. Bu’n sgriptio i’r radio a’r teledu gan gymryd rhan mewn dramâu ar y radio a hefyd gwaith teledu. Ar hyn o bryd mae’n cwblhau gradd uwch yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n sgriptio a darlledu storïau i blant ar radio Sain Abertawe a Radio Ceredigion. Gwaith Ymchwil: Newyddiaduraeth Gwilym R Jones.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Llyfr Mawr Difyr
Casgliad o Chwedlau’r Tylwyth Teg
Chwarae Dan Ganu
Chwaraeon y Buarth
Nawr Gallwch Ddarllen (Gomer)
Straeon Gwerin y Gwledydd (Carreg Gwalch)
Chwedlau Ddoe o Fro Hiraethog (Christopher Davies)
Oedran y Gynulleidfa: pob oedran
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Cyfarwyddo ysgrifennu creadigol ar gyfer oedran meithrin hyd at 18 oed
2. Dweud storïau yn null y cyfarwydd wrth grwpiau o blant mewn ysgolion, llyfrgelloedd ayb, a hybu’r plant i fod yn greadigol
3. Hybu dramâu gwreiddiol mewn ysgolion
4. Trafod sut i ysgrifennu’n greadigol gyda grwpiau o athrawon dan hyfforddiant, a thrafod a darllen peth o’m gwaith
5. Sut i drafod ysgrifennu creadigol gyda dysgwyr mewn ysgolion cynradd
7. Oedolion: Rhai agweddau ar waith y canlynol: Y Prifardd Gwilym R. Jones (Tal–y-sarn a Dinbych); agweddau llenyddol yn newyddiaduraeth Gwilym R Jones, fel golygydd Herald Môn a’r Faner; agweddau llenyddol yng ngolygyddiaeth Y Faner yng ngyfnod Thomas Gee, Dinbych; barddoniaeth Gwenallt
8. Trafod ei gwaith ei hun
Anghenion arbennig: gwybod ymlaen llaw beth yw cyrhaeddiadau ieithyddol y plant a’u hoedran. Darlithio yn Gymraeg yn unig


