Rhestr o Awduron

THOMAS, NED

Hafod Wen, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 2JY
email: nmt@aber.ac.uk

Ned ThomasBeirniad llenydol ac ysgrifwr. Magwyd yng Nghymru, Lloegr, yr Almaen a’r Swistir. Bu’n gweithio fel newyddiadurwr a hefyd fel darlithydd mewn prifysgolion yn Sbaen a Rwsia. Bu’n ddarlithydd yn Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth rhwng 1970–1990, ac yn yr un cyfnod bu’n olygydd y cylchgrawn Planet. Heddiw mae’n gyfarwyddwr Cynllun Mercator sy’n ymwneud â ieithoedd llai y Gymuned Ewropeaidd. Enillodd gystadleuaeth stori fer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1981. Fe yw Cadeirydd y cwmni a sefydlwyd i lansio’r papur newydd dyddiol cyntaf erioed yn y Gymraeg, Y Byd. Mae Ned hefyd yn Aelod Bwrdd yr Academi.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
George Orwell (Oliver and Boyd)
The Welsh Extremist – A Culture in Crisis (Gollanex/Y Lolfa)
Derek Walcott, Bardd yr Ynysoedd (Cyngor Celfyddydau Cymru)
Waldo Williams (Gwasg Pantycelyn)

Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Llenyddiaeth Cymru yn y ganrif hon - R.S. Thomas, Waldo Williams, Idris Davies
2. Llenyddiaeth Rwsia (e.e. Tolstoy, Solzhenitsyn)
3. Llenyddiaeth Saesneg y Caribî ac Affrica (Walcott, Achebe, Ngugi)
4. Cyhoeddi yng Nghymru

Oedran y Gynulleidfa: 6ed dosbarth / myfyrwyr coleg / oedolion