Rhestr o Awduron
TOMOS, DEWI
Gwelfor, Rhostryfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7PE
Ffôn: 01286 830142
e-bost: dewitomos@btinternet.com
Fei’i magwyd yng Ngharmel ac mae’n byw yn Rhostryfan ers 35 mlynedd. Athro ysgol yn Lerpwl, Perth G Awstralia, a Phenygroes. Wedi ymddeol yn gynnar. G?r i Mair a thad Gwydion, Rhiannon a Gwenllian. Cyn chwaraewr pel-droed a rhedwr, yn parhau i gerdded mynyddoedd a beicio. Wedi ennill sawl cadair a medal ryddiaith mewn eisteddfodau lleol, enillydd ar y stori fer a’r ysgrif yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi cyfrannu i gylchgronnau amgylcheddol, Cynefin, Dan Haul, ac i’r comic Penbwl. Nifer o gyfrolau am hanes ardal Dyffryn Nantlle. Pecynnau gwaith i ysgolion, Chwareli D Nantlle, Fel y gwynt a’r machlud, Amgylcheddol i Ganolfan Uwchgwyrfai, Parc Glynllifon, Canolfan dreftadaeth Kate Roberts. Cadeirydd Cyfeilion Cae’r Gors.
Detholiad o Gyhoeddiaau:
Llechi Lleu (Cyhoeddiadau Mei, 1980)
Yn Llwybrau Lleu 1 (Cyhoeddiadau Mei, 1981)
Yn Llwybrau Lleu 2 (Cyhoeddiadau Mei, 1981)
Cynhyrfu’r Dyfroedd (Cyhoeddiadau Mei, 1987)
Straeon Gwydion (Gwasg Carreg Gwalch, 1990)
Crwydro Bro Lleu (Gwasg Carreg Gwalch, 1990)
Mab y Ffoedigaeth (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)
Cerdded Gwynedd (Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
Atgof Atgof Gynt (Cyngor Gwynedd, 1997) (Darlith Llyfrgell Penygroes)
Tyddynnod y Chwarelwyr (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Eryri (Gwasg Carreg Gwalch, 2005) (Cyfres Broydd Cymru)
Teulu: ‘Ni welsom erioed gyfoeth’ (Cae’r Gors, 2006) (Darlith Flynyddol Cae’r Gors 2006)
The Quarrymen’s Tyddynnod (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Hel Meddyliau (Dewi Tomos, 2007)
Chwareli Dyffryn Nantlle (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
O Gwmpas y Foel (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
Yn y gyfrol hon ceir detholiad o deithiau cerdded yn cychwyn o Gae’r Gors, Rhosgadfan - hen gartref Kate Roberts a gafodd ei adfer a’i droi’n ganolfan dreftadaeth yn ddiweddar. Mae hon yn ardal hynod o ddifyr a diddorol ar gyfer ei chrwydro ar droed, yn cynnig amrywiaeth o dirwedd a sawl cip ar ein treftadaeth - o fyd natur, hanes pentrefol, olion chwareli i etifeddiaeth lenyddol.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen / trafod ei waith ei hun
2. Atgof, atgof gynt.
3. Straeon Gwerin
4. Y chwarelwr dyddynwr–bywyd tyddyn yng ngeiriau Kate Roberts, Thomas a Gruffudd Parry a Lisi Jones, oll wedi eu magu ar dyddynod yn ardal chwareli Dyffryn Nantlle.
5. O Ddinas Dinlle i ben Cilgwyn – taith OM Edwards yn fan cychwyn, darllen disgrifiadau gan lenorion amlwg o’r ardal o fywyd ardal Llandwrog, y Groeslon, Carmel, allan o gyfrolau Fr John Gwilym Jones, Syr Thomas a Gruffudd Parry yn bennaf.
6. Cefndir Kate Roberts, gall gynnwys taith o gwmpas ardal Moeltryfan - cefndir ei llyfrau cynnar fel Te yn y Grug, Traed Mewn Cyffion a’r Lôn Wen.
Oedran y Gynulleidfa: oedolion


