Rhestr o Awduron
TOMOS, ANGHARAD
Betws, Ffordd Haearn Bach, PENYGROES, Gwynedd LL54 6NY
Ffôn: (01286) 882134
Addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a Cholegau Aberystwyth, Bangor a’r Coleg Normal. Bu’n Ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith, yn ddylunydd graffig, yn ymchwilydd ac yn awdur preswyl. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd ddwywaith, a Gwobr Cyngor y Celfyddydau a’r Academi Gymreig am Yma o Hyd. Cyhoeddodd ddeuddeg llyfr i blant yng Nghyfres Rwdlan. Enillodd Wobr Tir na Nog ddwy waith gyda Y Llipryn Llwyd (1985) a Sothach a Sglyfath (1993). Cafodd ei llyfr mwyaf diweddar, Llithro dros Lythrennau, sy’n dysgu y wyddor i blant ei gyhoeddi yn 2005. Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug ym 1991 am Si Hei Lwli a Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Y Bala ym 1997 am Wele’n Gwawrio.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Yma o Hyd (Y Lolfa)
Sothach a Sglyfath (Y Lolfa, 1993)
Cyfres Rwdlan
Si Hei Lwli (Y Lolfa, 2005)
Cyfres Guto (Cwmni Recordiau Sain)
Titrwm (Y Lolfa, 1994)
Wele’n Gwawrio (Y Lolfa, 2004)
Rhagom (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Llithro Dros Lythrennau (Y Lolfa, 2005
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Trafod ysgrifennu creadigol gyda phlant: gellir ymestyn y drafodaeth i’w hannog i ysgrifennu storïau eu hunain
2. Trafod ysgrifennu ar gyfer plant / gwaith ei hun ac ysgrifennu creadigol
3. Darlith ar fywyd a gwaith David Thomas, Sosialydd
Oedran y Gynulleidfa: 7–11 oed (1) / oedolion


