Rhestr o Awduron
WILLIAMS, GARETH F.
4 Heol y Mynydd, Llandunwyd, Welsh St. Donats, ger Y BONTFAEN CF7 7SW
Ffôn: (01446) 773529
Dramodydd, nofelydd a sgriptiwr teledu. Ganed a maged ym Mhorthmadog, Gwynedd. Addysgwyd yn Ysgol Eifionydd ac yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam. Bu’n Athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon, Clwyd am dros saith mlynedd. Awdur proffesiynol er 1985. Cyfnod o ddwy flynedd a hanner gyda HTV fel awdur preswyl. Awdur wyth drama gerdd a dwy ddrama lwyfan. Gweithio’n awr ar drydedd nofel a llyfr ffeithiol i blant 10–12 am Anghenfil Loch Ness.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
O Ddawns i Ddawns
Pen Cyrliog a Sbectol Sgwâr (Y Lolfa)
Dramâu Llwyfan:
A’m Calon Fel y Plwm
Sion a Siân
Cariad Mwy
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Y gwaith o ysgrifennu’n greadigol
2. Nofelau pobl ifainc
3. Y nofel dditectif – Cymru a’r byd
Oedran y Gynulleidfa: ysgolion uwchradd ac oedolion. Dosbarthiadau hynaf ysgolion cynradd. Anghenion arbennig: sawl paned o de!



