Rhestr o Awduron

WILLIAMS, JOHN ELLIS

Allt Riwth, Llanrug, CAERNARFON, Gwynedd. LL55 3BD
E–bost: sionees1@yahoo.co.uk
Tel: (01286) 871 858.

Nofelydd ac awdur straeon byrion yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Hefyd yn awdur gweithiau ffeithlen a ffuglen ar gyfer ei bapur bro, Eco’r Wyddfa (dros 25 mlynedd) a’r cylchgronau Saesneg The Countryman (ibid.) a Country Quest.  Ganed yn Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon o dras amaethyddol, bu’n aelod o’r criwiau awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar ôl y Rhyfel, cafodd ei ddenu gan ddirfodaeth, yn arbennig yr hyn a bractiswyd ym Mharis.  Datblygodd gyfeillgarwch glòs â Mme. Simone de Beauvoir a bu’n gohebu a hi am flynyddoedd maith.  Canlyniad i hun bu iddo gael ei wahodd i’w gweld ym Mharis ac i un o’i nofelau gael ei chyflwyno i Editions Gallimard o dan ei nawdd hi.

Mae John wedi troedio’r Mers yng nghwmni crwydriaid a sipsiwn, wedi gweithio yng nghaeau gwenith ardal Champagne yn Ffrainc a chyda ceffylau gwyllt y Camargue.  Mae hefyd wedi treulio cyfnodau yn Euskadi, y Sierra Nevada, Chamonix ac yn Swistir.  Yn y 1950au bu John a’i wraig Joan deithio ar hyd a lled Ffrainc, Sbaen a Phortiwgal ar gefn beic modur.  Yn achos y ddwy wlad olaf, eu nod (a brofodd yn un llwyddiannus) oedd dilyn taith George Borrow trwy’r Pentir Iberaidd.  Bu iddynt aros am gyfnod gyda sipsiwn ogofdrigiannol Granada, Sbaen.

Yn y 1970au roedd y teulu wedi ei leoli yng Ngorllewin Sussex, Lloegr lle oedd John a Joan yn gweithio fel chauffeur–arddwr a meistres tw yn nhai mawr yr ardal.

Mae John bellach yn byw yn y cartref teuluol yng Ngwynedd, ymhle mae’n hapus gwylio’r byd yn troi o’i gwmpas a rhoi sylwadau craff ar faterion llenyddol neu ar y sefyllfa wleidyddol, gyfoes.  Bu’n gweithio’n ddiweddar fel prif ymgynghorydd ar ffilm-ddrama lwyddiannus, a dorrodd dir newydd yn y Gymraeg.  Seiliwyd y stori ar hanes ei ewythr Ellis Williams a fu’n gaucho ym Mhatagonia ac yn arwr ym myddin yr Awstraliaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Roedd y ffilm yn cael ei darlledu fel film Nadolig S/4C y llynedd.

Cyhoeddiadau

Nofelau Cymraeg:
Bryndu Mawr, Cadair Eisteddfod y Glasgoed 1959 (cafodd ei chyhoeddi yn yr Herald Cymraeg yn ddiweddarach y flwyddyn honno)
Hadau Gwyllt (Gwasg Gee, 1968)
Modd i Fyw (Cyngor Llyfrau Cymru, 1968)
Yr Ynys Wydr (Cyhoeddiadau Modern, 1969)
Gwynt i Oen (Gwasg Gwynedd, 1970)
Paul Jones a’r Tywysog (Gwasg Gee, 1975)
Wrth Ddychwel (Cyhoeddiadau Mei, 1982)
Nes Adref (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
Mae llawysgrifau’r nofelau hyn ar gael yn y Saesneg hefyd ond heb eu cyhoeddi hyd yma.

Straeon ffeithlen a ffuglen yn y Gymraeg
Straeon Cyfar Main (Cyhoeddiadau Mei, 1985)
Dychweliad y Deryn Mawr (Gwasg Carreg Gwalch, 1990)

Straeon i blant yn y Gymraeg
Elwd y Teiliwr Bach (Gwasg Gee, 1966)
Chwedlau Siôn ac Eleri (Gwasg Carreg Gwalch, 1992)
Nifer o straeon ar gael ar ffurf llawysgrif yn unig.

Bywgraffiad a hunangofiant yn y Saesneg
Clouds of Time and other stories (Gwasg Carreg Gwalch, 1989)
Ymddangosodd yn gyntaf fel cyfres yn y Gymraeg yn y cylchgrawn Pais ac yna trwy gyfrwng y Saesneg ar BBC Radio 4, BBC Radio Wales a’r cylchgrawn The Countryman.
Adolygiad gan Dr J-B PICY, Adran Saesneg, Université de Cergy-Pontoise, Ffrainc. 1999.   

Straeon ffeithlen a ffuglen yn y Saesneg
Rare Welsh Bits (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)

Straeon i blant yn y Saesneg
Owen the Goat of Snowdon (PeniPrint, 1981)

Pynciau y gallai drafod yn y Gymraeg a’r Saesneg
1 Ei waith ei hun a phopeth sy’n fâl i felin y llenor.
2 Teithio ac ysgrifennu.
3 Simone de Beauvoir, Margiad Evans, George Borrow, Juan Ramon Jiminez, Henryk Sienkiewcz, John Steinbeck a’u gweithiau.
4 Dylanwad yr awduron clasurol Ffrangeg o’r 19eg ganrif ar ei weithiau a’i fywyd. 


 

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z