Rhestr o Awduron

HUWS, MEIRION MACINTYRE

Mei MacGaned a maged ef yng Nghaernarfon. Aeth ymlaen i raddio mewn Peirianneg Sifil a Strwythurol yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd. Bu’n gweithio i Ddŵr Cymru am 16 mlynedd cyn mynd yn ddylunydd graffig ar ei liwt ei hun. Ym 1993 enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd a’r cylch am ei awdl Gwawr. Mae’n dalyrnwr brwd ac yn cynnal llawer o weithdai barddoni poblogaidd yn yr ysgolion. Ef oedd Bardd Plant Cymru 2001. Mae’n byw yn Llanwnda.

Llyfryddiaeth ddethol:
Y Llong Wen a Cherddi Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 1996)
Rhedeg Ras dan Awyr Las (Hughes, 2001)
Melyn (Barddas, 2004)