Rhestr o Awduron
JONES, ARWEL
Cae Eboni, Penisa’rwaun, ger CAERNARFON, Gwynedd LL55 3PG
Ffôn: (01286) 871274
Brodor o Lanberis, Arfon. Addysgwyd yn Ysgol Dolbadarn, Llanberis, Ysgol Brynrefail a Choleg Addysg Dinas Caerdydd. Bu’n athro yn Y Rhyl, Llanberis a Bethesda cyn cael ei benodi yn Brifathro Ysgol Gynradd Gaerwen, Ynys Môn. Mae’n gyn brifathro ysgol Bontnewydd ger Caernarfon. Mae’n aelod o’r grwp Hogia’r Wyddfa, ac ef a fu’n gyfrifol am gyfansoddi’r rhan fwyaf o’u caneuon.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Ugain o Gerddi i Gyfeiliant Gitâr (cyd–awdur, Dryw)
Hen Luniau Bro Eco’r Wyddfa (cyd–awdur)
Y Darans (Carreg Gwalch)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darlith: Y Stori tu ôl i’r gân
2. Gweithdy: gosod cerddi i gyfeiliant gitâr
Oedran y Gynulleidfa: 18 oed i fyny ar gyfer (1) / 11 oed i fyny ar gyfer (2)



