Rhestr o Awduron

ROWLANDS, SIONED PUW

Mae Sioned Puw Rowlands yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cymru Dramor, sef yr asiantaeth a noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo llenyddiaeth Cymru yn rhyngwladol. Graddiodd mewn Athroniaeth ac Ieithoedd Modern o Goleg Newydd, Rhydychen, ac yna mynd ymlaen i wneud doethuriaeth mewn llenyddiaeth gymharol yng Ngholeg Sant Antwn, Rhydychen. Mae hi’n awdur cyfrol o straeon byrion, Diogi a Chynhyrfu (1996), yn gyn gyd–olygydd y cylchgrawn Tu Chwith gydag Angharad Price, yn un o Gyfarwyddwyr Golygyddol y cylchgrawn ar–lein tairieithog, www.transcript-review.org sy’n trafod cyhoeddi a llenyddiaeth ar draws Ewrop, ac yn un o sylfaenwyr y cynllun Ewropeaidd Llenyddiaeth ar draws Ffiniau/Literature Across Frontiers, www.lit-across-frontiers.org. Hi hefyd yw awdur y gyfrol o gyfweliadau Byd y Nofelydd (2003).