Rhestr o Awduron

DAVIES, ELGAN PHILIP

Nofelydd ac awdur plant.  Mae’n awdur poblogaidd a thoreithiog i blant ac oedolion. Ym 1998, gosodwyd ei nofel dditectif, Fel y Dur, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, Cyngor Celfyddydau Cymru. Ymhlith ei lyfrau i blant y mae’r gyfres, ’Cefn y Rhwyd’, sy’n adrodd hanes tîm pêl–droed. Llyfrgellydd Addysg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yw Elgan Philip Davies. Y mae’n briod a chanddo bedwar o blant.

Detholiad o Gyhoeddiadau

i oedolion:

Rhwng y Cwn a’r Brain (Hughes, 1991)
Rhyw Chwarae Plant (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1995)
Fel y Dur  (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1998)
Cleddyf Llym Daufiniog (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003)

i blant:

Yn y Baw a’r Llaca (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1999)
Cyffro’r Cwpan (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2000)
Cic o’r Smotyn (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2002)
Olion Hen Elyn (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)
I’r Tir Tywyll (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2004)