Rhestr o Awduron
ROBERTS, CEFIN
Brodor o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle yw Cefin Roberts. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Bu’n gweithio i Gwmni Theatr Cymru ym Mangor. Yn 1990 sefydlodd Ysgol Glanaethwy, sef yr ysgol berfformio gyntaf o’i fath yng Nghymru. Yn 2003 fe’i hapwyntiwyd yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Môn yn 1988 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Meifod 2003 am ei nofel gyntaf
Brwydr y Bradwr.